Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal ymchwil newydd i ganfod bylchau mewn gwasanaethau sy’n atal pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin rhag cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel.
Bydd yr ymchwil yn nodi’r gwasanaethau sydd ar gael a’r math o wasanaethau sy’n cael eu darparu ledled Cymru a bydd yn edrych i weld a yw’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnynt.
Fel rhan o’r ymchwil, bydd tîm y Comisiynydd yn siarad â phobl hŷn sydd wedi goroesi camdriniaeth, i glywed am eu profiadau o gael gafael ar gymorth, a’r problemau a’r heriau a wynebwyd ganddynt. Bydd tystiolaeth hefyd yn cael ei chasglu gan randdeiliaid sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a thrwy adolygu data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Hefyd, bydd yr ymchwil yn nodi arferion da ac yn ystyried sut y gellid cyflawni hyn yn ehangach er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl hŷn.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn profi camdriniaeth bob blwyddyn, ond mae llawer o bobl hŷn sydd wedi goroesi camdriniaeth wedi dweud wrthyf am y trafferthion y maent yn eu hwynebu i gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnodau anoddaf.
“Mewn rhai achosion, roedd hyn oherwydd nad oedd gwasanaethau ar gael, ond mewn eraill, nid oedd gwasanaethau’n gallu diwallu anghenion pobl hŷn.
“Dyna pam rwyf wedi comisiynu’r ymchwil hon, er mwyn i ni gael darlun cywir o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, canfod bylchau annerbyniol yn y ddarpariaeth, a darparu tystiolaeth gadarn i sbarduno newid ar gyfer pobl hŷn.”
Mae’r ymchwil yn cael ei gwneud gan InsideOut: Organisational Solutions (IOOS), a dywedodd ei berchennog, Dr Norma Barry:
“Dylid canmol y Comisiynydd Pobl Hŷn am gychwyn y gwaith hwn.
“Mae cam-drin pobl hŷn yng Nghymru wedi’i guddio i ryw raddau ond mae’n dod yn fwy amlwg wrth i nifer y bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru gynyddu, ynghyd â chanlyniadau byw gyda’r pandemig Covid-19.
“Mae rhywfaint o dystiolaeth sy’n awgrymu bod pobl hŷn sy’n ddioddef cam-drin domestig ac ariannol yn gyndyn o geisio cael gafael ar wasanaethau ac nad yw’r cymorth sydd ar gael bob amser yn diwallu eu hanghenion penodol.”
Mae Rhian Bowen-Davies, Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn rhan o’r tîm sy’n gwneud yr ymchwil hon. Ychwanegodd Rhian:
“Mae’r gwaith hwn yn gyfle i gael gwybod gan oroeswyr ac ymarferwyr ‘beth sy’n gweithio’ o ran darparu gwasanaethau a lle mae angen gwelliannau er mwyn cyfrannu at bolisi ac ymarfer yng Nghymru yn y dyfodol.”
Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi ei chanfyddiadau yn y Flwyddyn Newydd ac yn nodi’r camau sydd eu hangen i gyflawni’r gwelliannau gofynnol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael yn gyflym, yn rhwydd ac yn ddiogel ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
DIWEDD