Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymchwil newydd i daflu goleuni ar y rhwystrau sy’n atal dynion sy’n dioddef cam-drin domestig rhag cael cymorth a chefnogaeth

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dechrau ymchwil newydd i archwilio profiadau dynion hŷn o gam-drin domestig, a’r ffyrdd y gellid gwella’r cymorth a’r gefnogaeth i ddynion hŷn sy’n profi camdriniaeth.

Yn ogystal ag edrych ar y ffyrdd penodol y mae cam-drin domestig yn effeithio ar ddynion hŷn, bydd yr ymchwil hefyd yn edrych ar yr heriau y gallent eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar gymorth a’r rhwystrau sy’n arwain at achosion o gam-drin yn cael eu tan-adrodd yn sylweddol.

Er bod y data’n gyfyngedig iawn, mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod tua chwarter y bobl sy’n cael eu cam-drin yn ddynion, a bod dioddefwyr sy’n ddynion yn gyffredinol yn hŷn, gyda’r gyfran uchaf o’r rheini sy’n cael eu cam-drin yn 75 oed neu’n hŷn.

Fel rhan o’r prosiect, bydd yr ymchwilwyr sy’n gweithio ar ran y Comisiynydd yn clywed yn uniongyrchol gan ddynion hŷn sydd wedi byw gyda chamdriniaeth am eu profiadau, yn ogystal â chasglu tystiolaeth gan ddarparwyr gwasanaethau cymorth cam-drin a rhanddeiliaid allweddol eraill i nodi’r gwelliannau sydd eu hangen a sut y gellir darparu’r rhain.

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae cam-drin yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl felly mae’n hanfodol bod pawb sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

“Mae dealltwriaeth gyfyngedig o hyd o’r ffyrdd y mae cam-drin domestig yn effeithio ar bobl hŷn, ac mae ymchwil a thystiolaeth sy’n ymwneud â phrofiadau dynion hŷn – a allai fod yn gyndyn o roi gwybod am gam-drin neu geisio cymorth a chefnogaeth – yn arbennig o gyfyngedig.

“Dyna pam rydw i wedi comisiynu’r ymchwil hwn, a fydd yn caniatáu i ddynion hŷn rannu eu profiadau, yn ogystal â chasglu tystiolaeth hanfodol gan ddarparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn archwilio’r anawsterau a’r heriau roedden nhw’n eu hwynebu a nodi’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod y gwasanaethau a’r cymorth priodol ar gael i bawb.”

Mae John, dyn hŷn a gafodd ei gam-drin, wedi croesawu cyhoeddiad y Comisiynydd. Meddai:

“Rhaid cofio bod sawl ffurf ar gam-drin domestig, nid cam-drin corfforol yn unig. Gall fod yn broses raddol sy’n dechrau ac yn datblygu drwy reolaeth ac ymddygiad gorfodol dros lawer o flynyddoedd a gall, ond nid bob amser, arwain at drais corfforol yn y pen draw. 

“Rydyn ni ddynion yn wael iawn am estyn allan am gymorth ac yn ei chael hi’n anodd ymddiried mewn pobl eraill o ganlyniad i embaras a diffyg ffydd y bydd pobl eraill yn ein credu.

“Mae’r genhedlaeth hŷn hefyd yn amharod i rannu achosion o gam-drin gan eu bod yn credu ei fod yn fater preifat ac, yn y pen draw, yn meddu ar agwedd ‘rydych chi wedi gwneud eich gwely, rhaid i chi orwedd ynddo’. Maen nhw hefyd o dan yr argraff ei fod yn unigryw a ddim ond yn digwydd iddyn nhw, ac i fod yn onest dydyn nhw ddim yn gwybod at bwy i droi am help.

“Rwy’n credu nad yw’r teimlad hwn yn cael ei helpu gan y diffyg sylw amlwg yn y cyfryngau ar y pwnc hwn drwy hysbysebion wedi’u hanelu’n benodol at ddynion sy’n ddioddefwyr.

“Yn bersonol, dydw i ddim yn cofio ond un asiantaeth leol wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer dioddefwyr sy’n ddynion. Roedden nhw’n dda, ond heb ddigon o staff o ganlyniad i gael eu tanariannu.

Fel cymhariaeth, pwy fyddai wedi meddwl flynyddoedd yn ôl, y byddem yn awr yn siarad yn fwy agored am salwch meddwl. Felly beth am siarad am gam-drin domestig lle mae’r dioddefwr yn ddyn!”

Dywedodd Kelly Lock, Pennaeth Ymchwil Ansoddol yn Opinion Research Services, sy’n arwain yr ymchwil ar ran y Comisiynydd:

“Rydyn ni’n falch o gefnogi’r Comisiynydd gyda’r darn pwysig hwn o waith. Mae effaith cam-drin ar bobl hŷn, a dynion hŷn yn benodol, yn faes nad oes digon o ymchwil iddo ac mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’w ddeall yn well o safbwynt goroeswyr, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yr ymchwil, gobeithio, yn helpu i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn er mwyn canfod y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen, a sicrhau ei bod ar gael i’r rhai sydd ei hangen.”

“Rydyn ni’n deall y gallai dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd wedi cael eu cam-drin fod yn gyndyn o ofyn am help. Rydyn ni’n awyddus i siarad â’r rheini sydd wedi estyn allan at wasanaethau cymorth yn ogystal â’r rheini sydd heb wneud hynny, i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw ac unrhyw rwystrau maen nhw wedi’u hwynebu wrth gael gafael arno”

Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad yng ngwanwyn 2022, a fydd yn nodi canfyddiadau ei hymchwil, a’i hargymhellion ar gyfer gweithredu i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen.

Ychwanegodd y Comisiynydd: “Drwy’r ymchwil hwn a’i ganfyddiadau, rwyf eisiau adeiladu ar y gwaith rwyf wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’r cynnydd sydd eisoes yn cael ei wneud drwy’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlais y llynedd, i sicrhau bod yr holl bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i’w cadw’n ddiogel a’u hamddiffyn.

“Rwy’n gwybod bod llawer o ddynion yn amharod i siarad am yr hyn maen nhw wedi’i ddioddef, ond bydd eu lleisiau’n hollbwysig er mwyn sbarduno newid. Felly, byddwn yn annog dynion sydd wedi cael eu cam-drin i gysylltu â’m swyddfa er mwyn i ni allu deall y problemau a’r heriau roedden nhw wedi’u hwynebu a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau hanfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil, neu i rannu eich profiadau, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd ar 03442 640670 neu anfonwch e-bost atask@olderpeoplewales.com

DIWEDD



Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges