Angen Help?
A hob burning

Ymateb y Comisiynydd i’r ffigurau diweddaraf ar y rhagamcan o dlodi tanwydd

i mewn Newyddion

Ymateb y Comisiynydd i’r ffigurau diweddaraf ar y rhagamcan o dlodi tanwydd

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Yn ôl adroddiadau, gall tua 90% o gyplau hŷn a 75% o bobl hŷn sengl ganfod eu hunain mewn sefyllfa o dlodi tanwydd erbyn mis Ionawr. Mae hyn yn peri pryder mawr ac yn dangos yr angen clir am ragor o gymorth ariannol i bobl hŷn wrth i ni wynebu’r argyfwng o ran costau byw.

“Bydd diffyg gweithredu pellach gan y llywodraeth yn San Steffan mewn ymateb i ragamcanion prisiau ynni sy’n prysur gynyddu, sy’n nodi y gallai costau ynni cyfartalog cartrefi gyrraedd dros £5,000 y flwyddyn yn fuan, yn gwneud i lawer o bobl hŷn deimlo eu bod wedi cael eu hanghofio wrth iddynt wynebu costau a biliau fydd yn amhosibl iddynt eu talu.

“Mae’n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod beth fydd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd: bydd methu â chymryd camau pellach yn rhoi iechyd a lles pobl hŷn mewn perygl sylweddol oherwydd salwch neu gyflyrau corfforol a achosir gan dai oer a/neu faeth gwael, neu’r straen a’r pryder a achosir gan boeni am eu harian.

“Bydd hyn, yn ei dro, yn golygu bod angen gofal a chymorth ar bobl hŷn a allai fod wedi cael eu gohirio neu eu hosgoi fel arall, yn ogystal ag arwain at dderbyniadau diangen i’r ysbyty a marwolaethau y gellir eu hosgoi.

“Dyna pam mae darparu rhagor o gymorth ar unwaith i bobl hŷn, ynghyd â newid strwythurol tymor hwy i sicrhau bod Pensiwn y Wladwriaeth a hawliau ariannol eraill yn darparu digon o incwm i bobl hŷn yn y dyfodol, yn hanfodol wrth i ni wynebu gaeaf anodd arall.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges