Angen Help?

Ymateb y Comisiynydd i Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio

i mewn Newyddion

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio a’r ymrwymiad i ddatblygu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.

“Rwy’n croesawu’r ffocws cryf ar hawliau pobl hŷn, gan gynnwys defnyddio Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn i lywio camau gweithredu a phenderfyniadau.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi cynllun cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn, sy’n effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru, yn ogystal â’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd mynd i’r afael ag oedraniaeth, gwahaniaethu ar sail oed a hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd.

“Dylai’r strategaeth helpu i sicrhau bod Gweinidogion yn canolbwyntio ar y materion allweddol sy’n effeithio arnom wrth i ni heneiddio, ond bydd y cynllun cyflawni sydd ar y gweill yr un mor bwysig i sicrhau bod camau gweithredu, cerrig milltir ac amserlenni clir ar waith i fonitro gweithrediad y strategaeth.

“Byddaf yn cadw llygad ac yn craffu’n fanwl ar y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i wireddu uchelgais ac ymrwymiadau’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn, a fydd yn arbennig o bwysig wrth i ni ddelio â cham nesaf y pandemig. Byddaf yn parhau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau.

“Mae cymdeithas sy’n heneiddio yn cynnig llawer o gyfleoedd i ni, ac mae’n hanfodol bod gennym ni’r polisi a’r arferion priodol ar waith er mwyn i ni i gyd heneiddio’n dda a pharhau i ymgysylltu â’n cymunedau, cyfranogi ynddynt a chyfrannu atynt i allu byw mewn gwlad lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges