Angen Help?
A thermostat on a radiator set to the snowflake

Ymateb y Comisiynydd i Gyhoeddiad y Cap ar Brisiau Ynni

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn cael eu dychryn gan gyhoeddiad heddiw ynglŷn â’r cap ar brisiau ynni ar gyfer aelwyd gyffredin yn codi i £3,549 o fis Hydref ymlaen.

“Mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod eisoes yn gwneud toriadau gyda hanfodion mewn ymdrech i geisio arbed arian cyn y gaeaf, rhywbeth sy’n peryglu iechyd a lles pobl, yn enwedig wrth i’r tywydd waethygu yn ystod misoedd y gaeaf.

“Heb gymryd camau pellach i ddarparu cymorth ariannol hanfodol i bobl hŷn, byddwn yn gweld cynnydd mewn salwch a chyflyrau corfforol a achosir gan dai oer a/neu faeth gwael, yn ogystal â’r straen a’r pryder a achosir gan boeni am arian.

“Bydd hyn yn golygu bod angen gofal a chymorth ar bobl hŷn a allai fod wedi cael eu gohirio neu eu hosgoi fel arall, yn ogystal ag arwain at dderbyniadau diangen i’r ysbyty ac, yn anffodus, marwolaethau y gellir eu hosgoi.

“Bydd diffyg gweithredu pellach hyd yma gan y llywodraeth yn San Steffan mewn ymateb i ragamcanion prisiau ynni, sy’n awgrymu’n gryf y gallai costau ynni cyfartalog cartrefi gyrraedd dros £5,000 y flwyddyn yn fuan, yn gwneud i lawer o bobl hŷn deimlo eu bod wedi cael eu hanghofio wrth iddynt wynebu costau a biliau fydd yn amhosibl iddynt eu talu.

“Rhaid i Lywodraeth y DU nawr ddarparu rhagor o gymorth ariannol ar unwaith i bobl hŷn wrth i ni nesáu at y gaeaf anodd arall, yn ogystal ag ymrwymo i gyflawni newid strwythurol tymor hwy i sicrhau bod Pensiwn y Wladwriaeth a hawliau ariannol eraill yn darparu lefel ddigonol o incwm i bobl hŷn yn y blynyddoedd i ddod.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges