Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’r colledion rydyn ni wedi’u profi yn ein cartrefi gofal yn ystod y pandemig Covid-19 wedi bod yn drasiedi, ac mae angen tawelu meddwl pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru y byddan nhw’n cael eu cadw’n saff ac yn ddiogel rhag Covid-19, a’u bod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gael yr ansawdd bywyd gorau posib.
“Rwy’n croesawu’r mesurau a nodir yn llythyr y Dirprwy Weinidog at randdeiliaid, sy’n cyd-fynd â llawer o’r cynigion y gwnes i’n ddiweddar wrth gyhoeddi’r adroddiad Lleisiau Cartrefi Gofal ac a fydd yn sail i’r cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru sydd yn yr arfaeth.
“Wrth i ni ddechrau meddwl am y gaeaf, bydd yn hanfodol bod camau’n cael eu cymryd ar draws yr holl feysydd a amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog er mwyn osgoi rhagor o golledion a thrasiedi yn ein cartrefi gofal, sy’n cefnogi rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.