Ymateb y Comisiynydd i Ddatganiad yr Hydref
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Canghellor y bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei godi yn unol â chwyddiant y flwyddyn nesaf – rhywbeth rwyf i a llawer o bobl eraill wedi bod yn galw amdano ar ran pobl hŷn – ac y bydd y cymorth sydd ar gael i bobl hŷn sy’n cael Credyd Pensiwn hefyd yn cynyddu.
“Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd cymorth ychwanegol ar gael i bobl hŷn y flwyddyn nesaf, a hynny drwy gynnal y Taliad Tanwydd Gaeaf a’r Taliadau Costau Byw uwch i’r rheini sy’n cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd.
“Fodd bynnag, gyda chostau ynni i fod i gynyddu i £3,000 ar gyfer aelwyd nodweddiadol ym mis Ebrill – cynnydd o tua 150% o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd – bydd llawer o bobl hŷn yn dal i boeni’n fawr y byddant yn wynebu biliau amhosibl.
“Bydd llawer o bobl hŷn hefyd yn poeni am sut y bydd cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus yn effeithio ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ac yn aml yn dibynnu arnynt, yn enwedig gan fod llawer o’r gwasanaethau hyn eisoes yn wynebu pwysau sylweddol.”