Ymateb y Comisiynydd i ddatganiad y Prif Weinidog ar brisiau ynni
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Nid yw’r camau gweithredu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn llawer o bobl hŷn rhag effaith ddinistriol yr argyfwng costau byw.
“Mae’r cap o £2,500 sy’n cael ei gyflwyno yn cynrychioli dyblu costau ynni o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd, sy’n golygu y bydd pobl hŷn ledled Cymru yn dal i wynebu biliau nad ydynt yn gallu eu talu.
“Mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod eisoes yn torri’n ôl ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian ac wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf, bydd hyn yn arwain at fwy o salwch oherwydd tai oer, llaith a/neu faeth gwael. Yn anffodus, mewn rhai achosion, bydd hyn yn arwain at farwolaethau y gellid bod wedi’u hatal.
“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog felly gymryd camau pellach wedi’u targedu i roi i bobl hŷn y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i ymdopi drwy’r gaeaf hwn.
“Ar ben hynny, rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau newid tymor hwy i sicrhau bod incwm pobl hŷn yn ddigonol ar gyfer safon byw derbyniol. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i gynnal mecanwaith y Clo Triphlyg ar Bensiwn y Wladwriaeth ac adolygu ac uwchraddio’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn barhaol i gydnabod y ffaith bod ei werth mewn termau real wedi gostwng yn sylweddol ers iddo gael ei bennu ddiwethaf.
“Ochr yn ochr â hyn, mae angen ailwampio’r system Credyd Pensiwn hefyd er mwyn i bobl hŷn sy’n gymwys dderbyn yr arian y mae ganddynt hawl iddo’n awtomatig. Byddai hyn yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i oddeutu 70,000 o bobl hŷn yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn colli allan – gwerth dros £200 miliwn.
“Mae’r Prif Weinidog newydd wedi colli cyfle i ddarparu cymorth hanfodol, a allai achub bywydau, y mae llawer o bobl hŷn mewn dirfawr angen amdano, ac mae’r pris a delir – gan unigolion a chymdeithas yn gyffredinol – o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn yn annerbyniol.”