Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb y Comisiynydd i adroddiad y Pwyllgor ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal

i mewn Newyddion

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira:

“Rwy’n croesawu’n fawr yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, mater a amlygais fel rhan o’m Hadolygiad i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

“Er y gall fod yn briodol defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn rhai achosion, gall defnyddio’r cyffuriau pwerus hyn yn amhriodol gael effaith ddinistriol ar bobl hŷn, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol.

“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar ganfyddiadau fy Adolygiad o Gartrefi Gofal, gan egluro bod angen amrywiaeth eang o gamau i sicrhau nad yw meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi’n amhriodol i rai o’n pobl hŷn mwyaf bregus.

“Yn yr un modd â phobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru, rwy’n disgwyl ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad i gymryd camau ystyrlon mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad.”

Cliciwch yma i lawrlwytho Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges