Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ni fydd prif ganfyddiadau’r adroddiad heddiw yn rhoi llawer o gysur i deuluoedd cleifion ward Tawel Fan, sydd wedi mynegi’n glir bod eu perthnasau wedi dioddef safonau gofal a oedd, yn syml iawn, yn annerbyniol.
“Mae’r adroddiad yn nodi amryw o fethiannau sylfaenol a systemig yn y ffordd yr oedd gofal yn cael ei roi i rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Mae’r ffaith fod yr adroddiad yn dod i’r casgliad bod nifer o’r materion hyn yn dal heb eu datrys neu newydd ddechrau derbyn sylw, hyd yn oed ar ôl sawl blwyddyn, yn bryder sylweddol.
“Mae hyn yn annerbyniol. Mae gan bobl agored i niwed a’u teuluoedd yr hawl i ddisgwyl y byddant yn derbyn gofal o safon uchel, ac y bydd gan y rheini sy’n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd afael da ar safon y gofal sy’n cael ei ddarparu, ac y byddant yn cymryd camau priodol yn ddi-oed pan fydd methiannau, er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ac nad yw camgymeriadau’n digwydd eto.
“Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i fynegi fy mhryderon ynghylch y nifer sylweddol o faterion nad ydynt wedi’u datrys, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad. Byddaf hefyd yn mynegi’n glir bod yn rhaid i’r Bwrdd gymryd camau gweithredu buan ac effeithiol i roi sylw i’r materion parhaus hyn sydd yn dal yn aros am sylw.
“Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd sicrhau nad yw’r math yma o fethiannau’n cael digwydd eto.
“Hefyd, mae angen ymgymryd â gwaith ar raddfa fawr i adennill ymddiriedaeth pobl hŷn a’u teuluoedd ar hyd a lled gogledd Cymru, er mwyn eu sicrhau bod y cleifion sy’n derbyn gofal gan y Bwrdd Iechyd yn ddiogel, yn saff ac yn derbyn y gofal o’r safon orau bob amser.”