Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb y Comisiynydd i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o benderfyniadau Peidio â Cheisio CPR

i mewn Newyddion

Older People’s Commissioner for Wales, Heléna Herklots CBE, said:

“Clinical decisions relating to Do Not Attempt CPR (DNACPR) are often very difficult for patients and their loved ones, and the ways in which these decisions are made can seem unclear and difficult to understand, particularly during times of crisis. That’s why timely, sensitive and informed discussions about DNACPR are vitally important.1

“I therefore welcome the findings of Healthcare Inspectorate Wales’ review of DNACPR decisions in Wales, which shine an important light on areas where improvements are required, particularly the need for more opportunities and support for staff training and greater consistency in the way that these decisions are discussed, recorded and shared.

“While the review did find examples of good practice and highlights the compassion and dedication of many staff providing care and support to people at the end of their lives, which is positive, it is clear that action is required throughout Wales to tackle the issues identified.

“I look forward to seeing the impact of the action that will be delivered through improvement plans developed in response to the review, which is important to help ensure people have the information they need and their rights are upheld.”

ENDS

1 The Commissioner’s DNACPR Information Hub provides key information about Do Not Attempt CPR decision and connects older people and their families to help, advice, support and useful resources. https://olderpeople.wales/resource/understanding-dnacpr-information-and-advice-about-do-not-attempt-cardiopulmonary-resuscitation-decisions/

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

Mae penderfyniadau clinigol sy’n ymwneud â’r cyfarwyddyd Peidio â Cheisio Dadebru Cardio-Anadlol (DNACPR) yn aml yn anodd iawn i gleifion a’u hanwyliaid, ac mae’r ffyrdd y mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn gallu bod yn aneglur ac yn anodd eu deall, yn enwedig yn ystod cyfnodau o argyfwng. Dyna pam mae’n hollbwysig cael trafodaethau amserol, sensitif a gwybodus am DNACPR.1

“Rwyf felly’n croesawu canfyddiadau adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o benderfyniadau DNACPR yng Nghymru, sy’n taflu goleuni ar feysydd lle mae angen gwella, yn benodol yr angen am ragor o gyfleoedd a chymorth i gynnal hyfforddiant staff, a gwell cysondeb yn y ffordd o drafod, cofnodi a rhannu’r penderfyniadau hyn.

“Er bod yr ymarfer wedi dod o hyd i esiamplau o arferion da, a’i fod yn tynnu sylw at drugaredd ac ymroddiad llawer o staff sy’n rhoi gofal a chymorth i bobl ar ddiwedd eu hoes, mae’n glir bod angen cymryd camau ledled Cymru i fynd i’r afael â’r problemau dan sylw.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld effaith y camau hyn a fydd yn cael eu cymryd drwy gynlluniau gwella sy’n cael eu datblygu mewn ymateb i’r adolygiad. Mae hyn yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bobl y wybodaeth sydd ei hangen arnynt a bod eu hawliau’n cael eu cynnal.”

DIWEDD

1 Mae hyb gwybodaeth DNACPR y Comisiynydd yn cynnwys gwybodaeth allweddol am benderfyniadau Peidio â Cheisio CPR, yn ogystal â chymorth, cyngor ac adnoddau defnyddiol i bobl hŷn a’u teuluoedd. https://comisiynyddph.cymru/adnodd/deall-dnacpr-gwybodaeth-a-chyngor-ar-penderfyniadau-beidio-ag-adfywio-cardio-pwlmonaidd/

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges