Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i’r safonau mynediad newydd ar gyfer practisau meddygon teulu

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi safonau newydd ar gyfer practisau meddygon teulu, er mwyn ceisio gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

“Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan fy swyddfa yn 2017 – Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn – yn nodi nifer o faterion a all atal pobl hŷn rhag cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu, ac roedd yn cynnwys canllawiau ffurfiol ar sut dylid rhoi sylw i’r materion hynny.

“Felly, mae’r safonau newydd yn gam pwysig ymlaen er mwyn gwella mynediad pobl hŷn at wasanaethau meddyg teulu. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer gwneud apwyntiadau a ffyrdd eraill y gallan nhw gyfathrebu a chysylltu â’u gwasanaeth meddyg teulu.

Serch hynny, mae nifer o faterion mwy cyffredinol sy’n ymwneud â mynediad sydd angen sylw o hyd. Er enghraifft, cludiant, mynediad ffisegol at feddygfeydd meddygon teulu ac amgylchedd y feddygfa. Byddaf yn dal ati i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o welliannau’n cael eu gwneud.”  


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges