Angen Help?

Ymateb i’r ffigurau diweddaraf am farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n bryderus iawn ynghylch ffigurau heddiw, sy’n dangos bod 129 o bobl mewn cartrefi gofal wedi marw o ganlyniad i Covid-19 yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 22 Ionawr, yr uchaf ers dechrau’r pandemig.

“Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli tor calon a cholled i deuluoedd ac i ffrindiau ym mhob cwr o Gymru, ac rwyf yn cydymdeimlo â’r rheini sydd wedi colli anwyliaid.

“Mae’n hanfodol bod cartrefi gofal yn parhau i weithio gyda thimau iechyd y cyhoedd lleol i nodi unrhyw fesurau ychwanegol a allai helpu i ddiogelu pobl hŷn a’r staff sy’n gofalu amdanyn nhw, a sicrhau bod y rhain yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith.

“Mae newyddion trist heddiw hefyd yn tanlinellu pam mae’n rhaid cymryd pob cam posibl i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal – y grŵp sydd ar frig rhestr flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosibl er mwyn eu diogelu rhag mynd yn ddifrifol wael gyda’r Coronafeirws.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges