Angen Help?

Ymateb i’r canllawiau diweddaraf ar ymweliadau â chartrefi gofal

i mewn Newyddion

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Oherwydd pwysigrwydd ymweliadau i iechyd a lles pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, does neb eisiau gweld cyfyngiadau ar ymweliadau’n cael eu hailgyflwyno, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Fodd bynnag, gan fod yr amrywiolyn omicron mor heintus, a’r risg y gallai pobl mewn cartrefi gofal gael eu taro’n ddifrifol wael gan Covid-19  ̶  fel a welwyd yn drasig iawn yn ystod cyfnod cynnar y pandemig  ̶  mae hyn i gyd yn golygu y bydd angen cyflwyno rhai cyfyngiadau yn awr yn anffodus.

“Mae rheolwyr a staff cartrefi gofal, a’r cyrff cyhoeddus sy’n eu cefnogi, wedi gwneud llawer iawn i alluogi ymweliadau diogel, ac rwy’n gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod ymweliadau diogel yn gallu parhau yn ystod y Nadolig a bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi i ymweld â theulu ac anwyliaid, o fewn y rheolau a nodir yn y canllawiau newydd.

“Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei fonitro’n ofalus gan fod angen i ni sicrhau bod ymweliadau’n gallu parhau i fynd rhagddynt lle gellir eu rheoli’n ddiogel, a bod y cyfyngiadau hyn yn cael eu codi cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny. Mae hefyd yn hanfodol nad yw’r mathau hyn o gyfyngiadau’n cael eu gwreiddio yn niwylliant cartrefi gofal wrth i ni symud ymlaen.

“Byddaf yn parhau i ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i fynegi unrhyw bryderon sydd gennyf ac i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu clywed ac yr ymatebir iddynt wrth i ni ddelio â cham nesaf y pandemig.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges