Ymateb i Ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i herio penderfyniadau gofal cymdeithasol
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n destun pryder mawr bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi canfod bod oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu ‘methu’ pan fyddant yn ceisio gwneud cwynion neu herio penderfyniadau gofal sy’n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol.
“Mae’r prosesau hyn yn hanfodol i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal a bod gofal ymatebol o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Mae’n annerbyniol bod y systemau ‘cymhleth, dryslyd ac araf’ sydd ar waith yn golygu bod y rhai sydd angen gofal cymdeithasol, a’u hanwyliaid, yn teimlo bod gwneud cwynion yn anodd yn peri straen – yn aml ar adegau o argyfwng – tra bod eraill yn cael eu hatal rhag ymgysylltu â’r system yn gyfan gwbl oherwydd pryderon am ganlyniadau negyddol gwneud cwyn, megis colli mynediad at y gofal cymdeithasol sydd ei angen.
“Mae adroddiad y Comisiwn hefyd yn amlygu bylchau sylweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn gwella mynediad pobl at wybodaeth am sut i herio penderfyniadau a’r cymorth sydd ar gael i’w helpu i wneud hyn, gan gynnwys mynediad at eiriolaeth annibynnol. Ochr yn ochr â hyn, mae casglu a dadansoddi data gwael yn golygu bod awdurdodau lleol yn colli cyfleoedd i ddeall pa mor dda y maent yn bodloni anghenion gofal cymdeithasol gwahanol grwpiau a nodi lle mae angen gwelliannau.
“Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn yn ofalus ac yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r camau sydd eu hangen i sicrhau nad yw pobl hŷn a’u hanwyliaid yn wynebu rhwystrau neu ganlyniadau negyddol wrth godi pryderon neu gwynion a bod eu hawliau cyfreithiol yn cael eu diogelu a’u cynnal.”
Darllenwch adroddiad yr Ymchwiliad