Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i sylwadau’r Ysgrifennydd Cyllid ar arian ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl hŷn

i mewn Newyddion

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’n hollbwysig sicrhau cyllid cynaliadwy i’r gwasanaethau cymdeithasol allu darparu’r gofal a’r gefnogaeth a allai fod eu hangen ar bobl wrth iddynt heneiddio, ac rwyf yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ffyrdd posibl o godi’r arian pwysig hwn.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y cynigion sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad sydd ar y gweill gan Gerry Holtham ynghylch sut gallai system ariannu seiliedig ar yswiriant weithio’n ymarferol. Mae hwn yn ddull a amlygwyd gennyf i fel ffordd bosibl o fwrw ymlaen yn fy nhystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wrthi’n cynnal ei ymchwiliad ei hun i’r mater hwn.

“Fodd bynnag, gan fod yr ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi’n ddiweddar yn dangos bod gwariant y gwasanaethau cymdeithasol ar bobl hŷn yn is na’r gwariant ar grwpiau oed eraill erbyn hyn[1], fe ddylai’r Ysgrifennydd Cyllid ystyried edrych ar drefniadau ariannu’r system gwasanaethau cymdeithasol drwyddi draw, er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw ddull newydd yn darparu ateb cynaliadwy yn y tymor hir, ac yn sicrhau gofal a chefnogaeth o’r safon uchaf i bawb sydd eu hangen.”



[1] Gwasanaethau Cyhoeddus 2025 / Gofal Cymdeithasol Cymru (2017) A Delicate Balance? Health and Social Care Spending in Wales < https://socialcare.wales/research-and-data/research-on-care-finder/a-delicate-balance-health-and-social-care-spending-in-wales?record-language-choice=en-cy>

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges