Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydw i’n croesawu’r ymgynghoriad ar strategaeth drafnidiaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi cael ei chyhoeddi.
“Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi pobl hŷn i fynd allan, gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, cymryd rhan yn eu cymunedau a chael gafael ar wasanaethau hanfodol fel apwyntiadau meddygon teulu.
“Ond mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi dweud wrthyf fod yr opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael iddyn nhw yn aml yn gyfyngedig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy’n gallu creu heriau a rhwystrau sy’n effeithio ar eu hannibyniaeth, eu hiechyd a’u lles.
“Byddai cyflawni’r camau gweithredu a gynigir yn y strategaeth yn sicrhau cynnydd mewn nifer o feysydd lle rydw i wedi mynegi pryderon ar sail y profiadau mae pobl hŷn wedi’u rhannu â mi, gan gynnwys y ffaith bod angen gwell cynllunio, dewisiadau trafnidiaeth mwy hygyrch a hyblyg, ac ymgysylltu’n well â defnyddwyr trafnidiaeth hŷn.
“Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod y rôl ehangach y bydd trafnidiaeth yn ei chwarae o ran cyflawni yn erbyn nifer o flaenoriaethau allweddol eraill – fel mynd i’r afael ag unigrwydd, gwneud ein cymunedau’n fwy oed-gyfeillgar a nodau llesiant ehangach – ac rydw i’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys pobl hŷn, i ddylunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.
“Er bod y strategaeth yn gam pwysig tuag at wella gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, bydd angen cryn dipyn o waith i gyflawni yn erbyn ei huchelgais a’i hymrwymiadau a byddaf yn monitro ac yn craffu’n ofalus ar y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd wrth i bethau symud ymlaen.”