Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn archwilio ffyrdd o alluogi mwy o ymweliadau â chartrefi gofal er mwyn i bobl hŷn allu cael cwrdd â’u hanwyliaid eto.
“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod arbennig o drallodus i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u teuluoedd a’u ffrindiau, y mae llawer ohonynt wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid am gyfnodau hir. Mae llawer o breswylwyr wedi gweld dirywiad sylweddol yn eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol yn ystod y cyfnod hwn, ac yn anffodus mae llawer wedi marw.
“Rwyf wedi bod yn galw am weithredu i alluogi ymweliadau diogel â chartrefi gofal i fod yn flaenoriaeth i Gymru, felly mae cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad iawn a bydd yn rhoi gobaith i’r miloedd o bobl hŷn a’u hanwyliaid sydd wedi bod ar wahân ers cyhyd.
“Yn awr, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu a chyhoeddi map manwl ar gyfer sut a phryd y bydd modd i ymweliadau ddigwydd yn ehangach, er mwyn rhoi amser i gartrefi gofal, yn ogystal â phobl hŷn a’u hanwyliaid, gynllunio a pharatoi. Dylai hyn gynnwys manylion y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu i’r sector cartrefi gofal, rheolwyr a staff, a phreswylwyr a’u hanwyliaid er mwyn galluogi i ymweliadau gael eu cynnal yn ddiogel ledled Cymru.
“Byddaf yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill ar y mater hwn – gan ganolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod lleisiau, pryderon a dymuniadau pobl hŷn yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt – a byddaf yn craffu ar eu cynlluniau i sicrhau y bydd y camau a gynigir yn galluogi i ymweliadau diogel rhwng preswylwyr cartrefi gofal a’u hanwyliaid ddechrau eto cyn gynted â phosibl.”