Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n anghytuno’n gryf â phenderfyniad y BBC i wneud i ffwrdd â’r drwydded deledu am ddim i bobl hŷn dros 75 oed nad ydynt yn cael credyd pensiwn. Bydd yn effeithio ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru.
“Mae dros hanner y 260,000 o bobl yng Nghymru sy’n 75 oed neu’n hŷn yn byw ar eu pen eu hunain, a’r teledu yw eu hunig gwmni a’u prif ffynhonnell newyddion ac adloniant.
“Mae yna filoedd lawer o bobl hŷn yng Nghymru sydd â’r hawl i gredyd pensiwn nad ydynt yn ei hawlio, ac mae tua £170 miliwn yn cael ei ddychwelyd i’r trysorlys heb ei hawlio bob blwyddyn. O dan y newidiadau arfaethedig, bydd y bobl hŷn hyn yn colli cymorth ariannol pellach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
“Ar ben hynny, rydym yn gwybod bod tlodi incwm cymharol ymysg pobl hŷn ar gynnydd, gydag 1 o bob 5 person hŷn yng Nghymru mewn tlodi parhaus, ac mae’r newidiadau arfaethedig yn debygol o wneud hynny’n waeth.
“Rwyf wedi galw felly ar Lywodraeth y DU i wireddu’r addewid yn ei maniffesto i barhau i ariannu trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Byddai hynny’n caniatáu i’r BBC newid ei benderfyniad.”