Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i gyhoeddiad Strategaeth Frechu Llywodraeth Cymru

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu Strategaeth Frechu Llywodraeth Cymru a datganiad y Gweinidog sy’n nodi’r cerrig milltir allweddol ar gyfer cyflwyno brechlyn Covid-19 i grwpiau blaenoriaeth ledled Cymru.

“Mae nifer o bobl hŷn wedi cysylltu â mi yn gofyn am wybodaeth ynghylch y brechlyn, yn enwedig yr amserlen ar gyfer ei ddarparu, ac rwy’n gobeithio y bydd y strategaeth hon yn rhoi’r sicrwydd ac eglurder sydd wir ei angen.

“Fel y cydnabu’r Gweinidog yn ei ddiweddariad, mae angen i’r cyflymder a’r graddfa cyflwyno gynyddu’n sylweddol wrth i ni symud ymlaen er mwyn cyrraedd y cerrig milltir hyn, a gwn y bydd staff a gwirfoddolwyr ar draws ein GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddarparu mor effeithiol â phosibl.

“Byddaf yn parhau i graffu’n fanwl ar y broses frechu yng Nghymru, a byddaf yn ymgysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru i rannu unrhyw faterion a phryderon a godir gyda mi gan bobl hŷn.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges