Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch yr ymgynghoriad arfaethedig ar gyllid gofal cymdeithasol

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydw i’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad i ystyried sut byddai modd creu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae pwysau ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol i bobl o bob oed, ac rydw wedi i mynd ati’n gyson i alw am fuddsoddiad yn ein system gofal cymdeithasol.

“Yn ogystal ag ymchwilio i sut gallai ardoll gofal cymdeithasol weithio fel rhan o’r ymgynghoriad, mae hefyd yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd o godi statws gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn mynd i’r afael â materion yn y gweithle sy’n achosi pwysau ychwanegol mewn system sydd eisoes ar ei gliniau.

“Mae gofal cymdeithasol yn darparu cymorth hanfodol i bobl o bob oed ac yn eu helpu i fyw mor annibynnol â phosib, i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, ac i gael yr ansawdd bywyd gorau posib, ac mae’n rhaid i’n system gofal cymdeithasol fod â’r adnoddau mae eu hangen arni i ddarparu gofal a chymorth o’r safon uchaf.

“Mae’r ddadl ynghylch cyllid gofal cymdeithasol wedi bod yn rhygnu ymlaen ers amser maith ac mae’n hen bryd cymryd camau gweithredu ystyrlon. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at hyn ac rwyf yn edrych ymlaen at rannu fy newyddion gyda Llywodraeth Cymru, ac at graffu ar eu cynlluniau er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges