Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar Oedran Cymhwysedd am Pas Bws Consesiynol

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Er bod y manylion a ddarperir yn natganiad y Gweinidog yn gyfyngedig iawn, rwy’n poeni y bydd y newidiadau arfaethedig i’r oedran cymhwysedd ar gyfer tocynnau bws am bris gostyngol yn cael effaith sylweddol ar lawer o bobl hŷn ledled Cymru.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a dibynadwy yn hanfodol i bobl hŷn, gan eu cynorthwyo i aros yn annibynnol, mynd a dod, ymweld â ffrindiau a theulu, gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, cadw at apwyntiadau meddygol, cyrchu gwasanaethau a chadw mewn cysylltiad â’u cymunedau.

“Collwyd llawer o wasanaethau bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer mwy dan fygythiad ar hyn o bryd, ac mae gostyngiad yn nifer y defnyddwyr ar lwybrau llai poblogaidd, gyda llawer ohonyn nhw’n bobl hŷn, yn debygol o waethygu hyn ymhellach.

“Yn bwysicach fyth, bydd cynyddu’r oedran cymhwyster yn ddiau yn effeithio ar rai o’r bobl hŷn mwyaf agored i niwed yng Nghymru, fel y rhai sy’n byw mewn tlodi neu’n agos at y llinell dlodi, pobl sydd wedi rhoi’r gorau i weithio i ofalu am anwyliaid a’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.

“Yn seiliedig ar yr hyn mae’r Gweinidog wedi ei ddweud yn ei ddatganiad ynghylch asesiadau effaith, ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried yn llawn eto beth fydd effaith ei newidiadau arfaethedig, na pha gamau y dylid eu rhoi ar waith i liniaru’r effaith hon. Gan hynny, rwy’n gwrthwynebu cynigion Llywodraeth Cymru a byddwn yn ei hannog i ailystyried.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges