Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar Ddysgu Oedolion yng Nghymru

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydw i’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran manteisio ar gyfleoedd dysgu oedolion, yn ogystal â’r ymrwymiad i archwilio sut gellid sicrhau’r hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru.

“Mae cyfleoedd dysgu yn hanfodol i gefnogi pobl hŷn i heneiddio’n dda ac, fel yr eglurais yn fy ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mae’r achosion o gau neu ostwng y gwasanaethau dysgu oedolion a ddarperir yn y gymuned yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith negyddol ar iechyd a lles pobl hŷn, gan leihau eu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac effeithio ar eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth.

“Er y byddai’r newidiadau a gynigiwyd gan y Gweinidog Addysg yn gam ymlaen i’w groesawu o ran sicrhau mynediad ehangach at ddysgu oedolion yng Nghymru, nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu darparu ynghylch yr amserlenni na’r cyllid fydd ar gael i gefnogi’r gwaith o’u cyflawni. Felly, byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â phobl hŷn ac ymgynghori â nhw mewn modd ystyrlon er mwyn iddynt gael cyfle i leisio eu barn ac er mwyn i ni ddeall eu hanghenion yn llwyr wrth i ni weithredu ar y cynigion hyn.”

Gallwch ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yma: https://bit.ly/2YP80XQ




Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges