“Er bydd cyhoeddiad heddiw yn hwb i incwm nifer o aelwydydd ar hyd a lled Cymru, rydym yn siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru yn dal i eithrio pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn o’u Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Mae’n annerbyniol bod pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf yn dal i gael eu hamddifadu o’r cymorth hollbwysig hwn.
“Mae dros 86,000 o aelwydydd hŷn yng Nghymru yn hawlio Credyd Pensiwn ac yn byw ar incwm o ddim ond £177.10 yr wythnos i un person neu £270.30 i gwpl. Mae’r cynnydd parhaus ym mhris tanwydd yn rhoi cryn bwysau ar incwm yr aelwydydd hyn, yn ogystal â’r bron i 70,000 o aelwydydd sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn ond nad ydynt yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo eto.
“Yn ogystal â’r cynnydd mewn biliau tanwydd, mae pobl hŷn yn wynebu heriau anodd mewn sawl maes arall sy’n arwain at argyfwng go iawn o ran costau byw. Mae hyn yn cynnwys pris cynyddol bwyd sylfaenol, gweithwyr hŷn yn wynebu’r gyfradd ddiswyddo uchaf ymysg pob grŵp oedran a llawer o bobl hŷn yn gorfod talu am eu hiechyd a’u gofal cymdeithasol eu hunain oherwydd oedi a achoswyd gan y pandemig neu gwtogi eu horiau gwaith i ofalu am anwyliaid.
“Mae pobl hŷn wedi cysylltu â ni ac maen nhw’n poeni am gostau cynyddol tanwydd ac rydyn ni’n poeni y bydd llawer eisoes yn defnyddio llai o wres er mwyn lleihau costau. Bydd hyn yn eu rhoi mewn perygl o niweidio eu hiechyd, ar adeg pan fo llawer o bobl hŷn yn dal i wella ar ôl effeithiau negyddol y pandemig. Os na chaiff pobl hŷn eu cefnogi’n ddigonol i barhau i ddefnyddio’r gwres y mae dirfawr ei angen arnynt, byddwn yn gweld rhagor o bobl yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty ac, yn anffodus, cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n marw oherwydd y tywydd oer.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar frys i newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i wneud yn siŵr bod pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn gallu cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i gadw eu hunain yn ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn. Ochr yn ochr â hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddyblu ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn i sicrhau bod cynifer o bobl hŷn â phosibl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl gyfreithiol i’w gael.
“Rydym yn ysgrifennu eto at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn iddi ailystyried y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi eithrio pobl hŷn o’r cymorth ariannol hwn a gobeithio y bydd yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau na fydd unrhyw berson hŷn yng Nghymru yn gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta’r gaeaf hwn.”
Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Vicki Lloyd, Prif Weithredwr, Age Cymru