Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae cyfleoedd dysgu gydol oes yn hollbwysig er mwyn helpu pobl i heneiddio’n dda. Mae’r cyfleoedd yn cynnig amrywiaeth o fanteision ac yn caniatáu i bobl aros yn weithgar yn feddyliol, dysgu sgiliau newydd a chreu cysylltiadau newydd.
“Rwyf felly’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd pobl dros 60 oed nawr yn gallu cael gafael ar gymorth ariannol, ar ffurf bwrsari, a fydd yn eu cefnogi i gymryd rhan mewn addysg ôl-radd a chwblhau gradd Meistr.
“Mae prinder y math hwn o gyllid hyd yma wedi golygu nad oes llawer o bobl hŷn wedi gallu manteisio ar gyfleoedd addysg ôl-radd ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i fy ngheisiadau am weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon.”