Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n hanfodol bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wrth galon penderfyniadau am y camau a gymerir i wneud Cymru yn genedl o gymunedau sy’n oed gyfeillgar.
“Felly, rwy’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £1.1m ar gael i helpu awdurdodau lleol i ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn wrth iddynt ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau i wneud cymunedau’n fwy oed gyfeillgar.
“Mae hwn yn gam pwysig tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, a bydd yn helpu i sicrhau bod y camau a gymerir yn cael eu llywio gan wybodaeth ac arbenigedd pobl hŷn.”