Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu cyhoeddi Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, a’r uchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
“Mae cyhoeddi’r cynllun yn gam pwysig tuag at sicrhau bod hawliau pobl LHDTC+ yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u cynnal, ac mae’n mynd i’r afael â rhwystrau sy’n gallu atal pobl LHDTC+ rhag cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth mae nhw ei angen.
“Rwy’n falch bod llawer o’r pwyntiau a godwyd gennyf yn fy ymateb i’r ymgynghoriad ar y cynllun drafft – megis yr angen am fwy o gydnabyddiaeth o sut y gall gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+ gael ei waethygu gan fathau eraill o wahaniaethu megis rhagfarn ar sail oedran, a’r angen am amserlenni clir ar gyfer cyflawni’r camau gweithredu a nodwyd – yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.
“Fodd bynnag, mae angen rhagor o fanylion am y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion penodol sy’n wynebu pobl LHDTC+ wrth iddynt fynd yn hŷn, rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda Llywodraeth Cymru.
“Mae gwerthuso effaith y cynllun yn effeithiol hefyd yn hanfodol, ac mae angen rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut bydd hyn yn cael ei gyflawni i sicrhau bod profiadau pawb – gan gynnwys profiadau pobl hŷn – yn cael eu cofnodi a’u hadlewyrchu’n briodol.
“Wrth fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun, mae’n hanfodol bod pobl hŷn wrth galon y gwaith o ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael eu deall yn iawn.”
Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru