Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Kelly Davies:
“Rwyf yn croesawu cyhoeddi ‘Cymru Iachach’ heddiw, sy’n nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweddnewid y ffordd caiff iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau’n gallu diwallu anghenion ein poblogaeth.
“Mae nifer o’r cynigion yn y ddogfen yn adlewyrchu galwadau a wnaed gan y Comisiynydd ynghylch sut mae angen i iechyd a gofal cymdeithasol newid i bobl hŷn, ac rwyf yn arbennig o falch o weld bod y ddogfen yn datgan yn glir y bydd pobl hŷn ledled Cymru yn cael eu ‘gwerthfawrogi, eu cefnogi i fyw’n annibynnol ac yn cael eu trin ag urddas a pharch, gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid statudol a’r trydydd sector i gyd yn chwarae eu rhan i wireddu hawliau’.
“Mae’r ymrwymiad i sicrhau gwaith partneriaeth ystyrlon ar draws iechyd a gofal cymdeithasol – gan gynnwys posibilrwydd cydarolygiadau – i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, sy’n fwy integredig ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn ein cymunedau hefyd yn gam pwysig ymlaen.
“Fodd bynnag, er bod y ddogfen yn cyflwyno gweledigaeth gadarnhaol o sut caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu y mae’n anodd anghytuno â hi, mae angen llawer mwy o fanylion ynghylch sut caiff y cynigion yn y ddogfen eu rhoi ar waith.
“Mae hi’n hanfodol bod yr uchelgais a nodir yn ddogfen yn dod yn realiti ar gyfer pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru a bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru wrth iddi roi’r weledigaeth hon ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar waith.”