Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er fy mod yn croesawu elfennau o’r ddogfen – yn cynnwys y cyfeiriad at gymorth i weithwyr hŷn, y camau gweithredu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a’r gefnogaeth i’r GIG ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws – roeddwn i wedi fy synnu a’m siomi na chafodd pobl hŷn eu cydnabod yn benodol fel grŵp y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnyn nhw’n anghymesur.
“Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o bobl hŷn ledled Cymru, yn enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed, ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod hyn wrth fynd ati i ailadeiladu ac adfer.
“Rydw i’n poeni hefyd nad yw’r ddogfen yn cydnabod bod pobl hŷn yn gyfranwyr pwysig at ein heconomi a’n cymdeithas yng Nghymru, a bod ganddynt rôl allweddol i’w chwarae yn adferiad a dyfodol Cymru.
“Rydw i wedi ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i nodi fy mhryderon, ac rydw i wedi gofyn am gyfarfod i drafod y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod pob cenhedlaeth yn teimlo fel pe bai’n cael ei chydnabod a’i gwerthfawrogi a bod pobl hŷn yn gallu cyfrannu’n llawn at y broses ailadeiladu ac adfer yng Nghymru.”