Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i fframwaith ar gyfer adferiad Llywodraeth Cymru

i mewn Newyddion

Wrth ymateb i gyhoeddi’r fframwaith Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r fframwaith ar gyfer adferiad gan Lywodraeth Cymru a’r bwriad i fod yn agored ac i ymgysylltu’n agos â’r cyhoedd yng Nghymru.

“Mae’n bwysig bod penderfyniadau i newid y cyfyngiadau yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth gynhwysfawr, ond dylid hefyd ystyried lleisiau a phrofiadau pobl hŷn a gweddill y gymdeithas.

“Rwy’n croesawu’n arbennig ffocws y ddogfen ar sicrhau y dylai unrhyw newidiadau i gyfyngiadau gael effaith gadarnhaol ar gydraddoldeb, ac nad yw hynny’n cael effaith niweidiol ar grwpiau agored i niwed neu grwpiau ar yr ymylon.

“Rwy’n glir na ddylai unrhyw gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau gael effaith anghymesur ar bobl hŷn a dylid sicrhau bod eu hawliau dynol yn cael eu parchu a’u cynnal.

“Byddaf yn parhau i fonitro a chraffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19 er mwyn gwneud yn siŵr bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarchod fel y gallant dderbyn yr help a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gadw’n iach.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges