Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Roedd y marwolaethau mewn cartrefi gofal ar draws y DU yn ystod y pandemig yn drasiedi, ac rydw i’n meddwl am y rheini sy’n dal i alaru ac yn dod i delerau â cholli teulu a ffrindiau.
“Er bod dyfarniad yr Uchel Lys yn canolbwyntio’n benodol ar gamau a gymerwyd yn Lloegr, bydd teuluoedd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru hefyd yn chwilio am atebion ynglŷn â sut yr effeithiodd polisïau a phenderfyniadau yng Nghymru ar eu hanwyliaid.
“Mae’r dyfarniad yn tanlinellu’r angen am Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru i archwilio effaith y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a rhoi’r atebion sydd eu hangen ar bobl.”