Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n siomedig iawn fod yr Uchel Lys wedi dyfarnu nad oedd newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth yn wahaniaethol, er gwaethaf yr effaith maent wedi’i chael ar nifer sylweddol o fenywod hŷn.
“Mae hyn wedi effeithio ar bron i 4 miliwn o fenywod ledled y DU, ac mae nifer yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol am na chawsant amser priodol i wneud addasiadau mewn ymateb i’r newidiadau.
“Er gwaethaf y dyfarniad, rwy’n dal i gredu bod y ffordd y cafodd y newidiadau hyn eu cyflwyno gan lywodraeth y DU wedi cael effaith anghymesur a gwahaniaethol ar fenywod o oedran penodol – rhywbeth na ddylai fod yn dderbyniol.
“Rwyf hefyd yn bryderus fod dyfarniad yr Uchel Lys yn cyfleu neges ei bod hi’n dderbyniol gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn, er gwaethaf yr effaith y gall hyn ei chael, ar unigolion ac ar gymdeithas.
“Roedd cefnogwyr y tu allan i’r Uchel Lys, a oedd yn amlwg yn siomedig â’r penderfyniad, yn mynegi’n glir y byddent yn dal ati i frwydro. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cyrraedd sefyllfa lle bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu er mwyn i’r rhai y mae’r newidiadau wedi effeithio arnynt gael eu digolledu – boed hynny drwy’r llysoedd neu drwy’r ymgyrchoedd dan arweiniad WASPI a’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i Fenywod.”