Ymateb i Ddatganiad y Canghellor ar y gyllideb fach ddiweddaraf
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Yn hytrach na rhoi sicrwydd, bydd y datganiad gan y Canghellor newydd wedi gwneud i lawer o bobl hŷn yng Nghymru deimlo’n bryderus iawn am y biliau ynni fydd yn eu hwynebu erbyn mis Ebrill 2023, gyda rhagolygon y bydd costau ynni ar gyfer aelwyd nodweddiadol yn codi dros £4300.
“Ochr yn ochr â hyn, mae methiant y Canghellor i ymrwymo i gynnal y Clo Triphlyg ar Bensiynau a chodi Pensiwn y Wladwriaeth yn unol â chwyddiant yn golygu y bydd llawer o bobl hŷn yn poeni y byddant yn wynebu gostyngiad pellach yn eu hincwm mewn termau real, gan greu pwysau ariannol pellach, yn ogystal ag achosi straen a phryder sylweddol.
“Gwyddom fod pobl hŷn eisoes yn gwario llai ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian, a fydd yn arwain at fwy o afiechyd oherwydd tai oer, llaith a/neu faeth gwael. Yn anffodus, mewn rhai achosion, bydd hyn yn arwain at farwolaethau y gellid bod wedi’u hatal.
“Bydd llawer o bobl hŷn hefyd yn poeni am effaith y toriadau mewn gwariant ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnynt ac y maent yn aml yn dibynnu arnynt, sydd eisoes yn wynebu pwysau enfawr.
“Rhaid i Lywodraeth y DU ystyried ei blaenoriaethau’n ofalus, a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl hŷn, yn ystod y gaeaf hwn, a hefyd yn y tymor hwy. Dyna pam ei bod yn hanfodol eu bod yn ymrwymo’n syth i’r Clo Triphlyg ar Bensiynau, ac yn adolygu ac yn uwchraddio’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn barhaol, gan gydnabod y gostyngiad yn ei werth mewn termau real ers iddo gael ei osod ddiwethaf.
“Yn y tymor hwy, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd gynnal adolygiad cynhwysfawr o Bensiwn y Wladwriaeth – sydd ymysg yr isaf yn Ewrop ar hyn o bryd – a hawl a chymorth arall i sicrhau bod incwm pobl hŷn yn ddigon er mwyn iddynt gael safon byw dderbyniol.”