Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Ddatganiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â cherdyn teithio rhatach

i mewn Newyddion

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Rydw i’n siomedig dros ben fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei phenderfyniad i gynyddu’r oed cymwys ar gyfer derbyn cerdyn teithio rhatach o 60 oed i oed pensiwn gwladol, a fydd yn cael effaith sylweddol ar gannoedd o filoedd o bobl hŷn drwy Gymru.

“Mae’r cerdyn teithio rhatach yn darparu cefnogaeth werthfawr i bobl hŷn o bob oed, gan gefnogi eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl, yn ogystal â hyrwyddo eu hannibyniaeth, eu cefnogi nhw mewn cyfrifoldebau gofalu a’u galluogi nhw i aros mewn gwaith neu gael at gyfleoedd dysgu a hyfforddi.

“Yn fy ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater hwn, ac mewn gohebiaeth ddilynol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, rydw i wedi egluro fy mod yn gwrthwynebu’r newid hwn a bod gennyf i bryderon difrifol ynglŷn ag asesiad effaith Llywodraeth Cymru sy’n ategu’r penderfyniad hwn, sy’n gwneud nifer o dybiaethau ynglŷn â phobl hŷn a’u hanghenion, lleihau pwysigrwydd yr effaith ar unigolion a phrin ei fod yn ystyried y costau posibl sy’n debygol o syrthio ar wasanaethau cyhoeddus eraill o ganlyniad i’r cynigion hyn.

“Mae’r ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dangos yn ogystal nad yw’r polisi hwn yn boblogaidd gyda phobl hŷn na’r cyhoedd ehangach ac rydw i wedi clywed gan bobl hŷn drwy Gymru nad ydyn nhw’n cytuno â chynigion Llywodraeth Cymru.

“Mae’r arbedion ariannol cymharol fychan y mae’r cynigion hyn yn honni eu bod yn cynnig yn cael eu gorbwyso llawer gan yr effaith ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl hŷn a’r costau cysylltiedig i iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau a chefnogaeth na fyddai wedi bod eu hangen fel arall. Ymhellach na hynny, mae’r gost bersonol i unigolion yn nhermau ansawdd eu bywydau yn annerbyniol o uchel.

“Yn ogystal, rydw i’n pryderu ynglŷn ag effaith y gallai’r newid arfaethedig ei gael ar Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, yn arbennig a all ymdrin yn gywir ag anghenion pobl hŷn tra mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared â’r hawl hwn oddi wrth gannoedd o filoedd o bobl hŷn.

“Yn yr un modd, mae’r cynigion hyn, a fydd yn gorfodi rhai pobl hŷn i wneud siwrneiau mewn car yn hytrach nag mewn bws, yn mynd yn groes i ddatganiad diweddar Llywodraeth Cymru am Argyfwng Hinsawdd, ac mae’n tanseilio ymrwymiadau diweddar yn sylweddol er mwyn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

“O gofio’r buddion eglur a ddaw gyda’r System Cerdyn Teithio Rhatach i bobl hŷn yng Nghymru, a’r costau a’r effaith sylweddol a fydd y cynigion yn eu cael, anogaf yn gryf i’r Gweinidog ailystyried y penderfyniad hwn.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges