Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i ‘Cymru Oed-Gyfeillgar: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu fersiwn ddrafft Llywodraeth Cymru o ‘Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’, sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw ac sydd bellach yn destun ymgynghoriad.

“Mae cymdeithas sy’n heneiddio yn cynnig llawer o gyfleoedd i ni, ac mae’n hanfodol bod gennym ni’r polisi a’r arferion priodol ar waith er mwyn i ni i gyd heneiddio’n dda a pharhau i ymgysylltu â’n cymunedau, cyfranogi ynddynt a chyfrannu atynt.

“Cyn y pandemig, roedd llawer o bobl hŷn eisoes yn wynebu cryn heriau ac anawsterau a oedd yn effeithio ar ansawdd eu bywyd, ac mae llawer o’r heriau ac anawsterau hyn wedi cael eu gwaethygu eleni. Mae’r pandemig hefyd wedi creu llawer o broblemau newydd i bobl hŷn ledled Cymru, sy’n golygu bod sicrhau newid a gwelliannau ystyrlon yn y tymor byr a’r tymor hwy yn hollbwysig.

“Mae’r strategaeth yn gam pwysig tuag at gynllunio a chyflawni’r newid hwn, a gwneud cynnydd mewn meysydd allweddol lle rydw i wedi mynegi pryderon wrth Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n croesawu ei bod yn canolbwyntio ar hawliau pobl hŷn a sicrhau dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau, gan gynnwys defnyddio Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn i arwain camau gweithredu a phenderfyniadau, a nodau allweddol eraill, gan gynnwys creu Cymru oed-gyfeillgar a blaenoriaethu atal, a fydd yn hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw bywydau iach ac annibynnol. 

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â cham-drin, rhywbeth sy’n effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru, a’r gydnabyddiaeth yn y strategaeth o bwysigrwydd mynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed a hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, a fydd yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd.

“Fel Comisiynydd, byddaf yn monitro ac yn craffu’n fanwl ar y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu’r uchelgais a’r ymrwymiadau yn y strategaeth ar gyfer pobl hŷn, gan weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion.

“Byddwn hefyd yn dweud wrth bobl hŷn mai eich strategaeth chi yw hon, chi yw’r arbenigwyr drwy brofiad ac rydych chi’n gwybod am y newidiadau a’r gwelliannau sydd eu hangen. Felly byddwn yn eich annog i fwrw golwg ar y strategaeth, rhannu eich sylwadau a’ch syniadau gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau eich bod yn lleisio eich barn.”

Darllenwch Cymru Oed-Gyfeillgar: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio ac ymateb i’r ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/strategaeth-ar-gyfer-cymdeithas-syn-heneiddio-cymru-o-blaid-pobl-hyn?_ga=2.231284248.623206216.1607958317-1087656480.1543319269

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges