Ymateb i bandemig Covid-19 yng Nghymru
Fe effeithiodd y pandemig Covid-19 ar bob un ohonom mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan greu problemau a heriau newydd yn ein bywydau bob dydd ac, yn anffodus, arweiniodd at golli nifer sylweddol o fywydau, sydd wedi achosi tristwch a galar i lawer o deuluoedd.
Roedd pobl hŷn yn canfod eu hunain wedi’u heffeithio’n anghymesur gan y pandemig a’i effaith a thrwy gydol y cyfnod hwn galwais yn rheolaidd i amrywiaeth profiadau pobl hŷn gael ei hadlewyrchu yn yr ymateb i, a’r adferiad, o Covid-19.
Pan ddechreuodd y pandemig, fe newidiodd fy ngwaith yn sylweddol, gyda hyd yn oed mwy o bwyslais ar ymgysylltu â phobl hŷn a gwrando arnynt, ochr yn ochr â darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth; sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnal ar draws ystod o leoliadau; craffu ar benderfyniadau a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am eu gweithredoedd; galw am weithredu a chynnig datrysiadau, gan gynnwys hyrwyddo arfer da.
Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o’r camau gweithredu a gymerwyd yn y ddwy flynedd o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2022. Mae’n ceisio darparu mewnwelediad i ehangder profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig a’r heriau sylweddol a wynebwyd gan bobl, yn ogystal â phwysleisio’r camau gweithredu a’r newid yr wyf wedi galw amdanynt ar ran pobl hŷn (mae gwybodaeth bellach ac adroddiadau llawn ar gael ar fy ngwefan, neu cysylltwch os hoffech dderbyn copïau papur).
Drwy’r adroddiad cyfan hwn, rwyf eisiau sicrhau nad yw graddau’r materion hyn ac, yn bwysicach, y gwersi y gallwn eu dysgu i ddiogelu a chefnogi pobl hŷn yn fwy effeithiol yn y dyfodol, yn cael eu colli wrth i ni ddelio â heriau newydd a rhai sy’n datblygu.
Bydd hyn yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru yn lle y mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, mae hawliau’n cael eu cynnal ac nid yw unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl.
Darllenwch adroddiad y Comisiynydd