Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydw i’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, sy’n amlinellu profiadau gofalwyr ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
“Mae’n amlwg o ganfyddiadau’r Pwyllgor bod yr hawliau y mae’r Ddeddf yn eu haddo i ofalwyr wedi methu â chael eu gweithredu’n llwyr a bod pethau wedi mynd yn waeth byth i rai gofalwyr.
“Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyfreithiol i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain am ofal a chymorth, sydd ar wahân i’r asesiad o anghenion y person maen nhw’n gofalu amdano. Fodd bynnag, does dim digon o bobl yn gallu cael mynediad at yr asesiadau hyn, does dim digon yn troi at gymorth ac mae prinder gwybodaeth ar gael pan fydd asesiadau’n cael eu gwrthod.
“Rydw i’n cefnogi holl argymhellion y Pwyllgor yn llwyr, yn enwedig y ffaith bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth o’r help a’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr a’r ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru baratoi cynllun gweithredu clir i fynd i’r afael â’r methiannau amlwg o ran y modd y caiff y Ddeddf ei rhoi ar waith.
“Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol ac yn adeiladol i’r adroddiad ac yn gweithredu ar argymhellion hollbwysig y Pwyllgor.”