Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor sy’n tynnu sylw at yr effaith sylweddol y mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar bobl hŷn sy’n wynebu amseroedd aros annerbyniol am gymorth gofal cymdeithasol, a’r effaith maen ei gael ar y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, gan greu pwysau pellach mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd.
“Mae’n destun pryder arbennig bod pobl hŷn sy’n byw gyda dementia yn cael eu heffeithio’n benodol, gydag enghreifftiau o unigolion yn cael eu gadael dan straen, yn bryderus ac yn ofnus oherwydd problemau gyda threfniadau rhyddhau.
“Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen am weithredu pellach i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys codi proffil a statws gwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â gwella cyflogau ac amodau, er mwyn i ni gael y bobl iawn, sydd â’r sgiliau iawn, yn y llefydd iawn i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
“Rwy’n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor ac yn cyflawni’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad a sicrhau bod y gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar bobl hŷn ar gael fel y gellir eu rhyddhau pan fyddant yn barod, yn hytrach na phan fydd y system yn caniatáu hynny.”
Darllenwch adroddiad y Pwyllgor