Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor ar Hawliau Ariannol yng Nghymru

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad, sy’n tynnu sylw at y ffyrdd mae’r system hawliau ariannol yn creu rhwystrau rhag lleihau tlodi.

“Er gwaethaf y gwahaniaeth cadarnhaol y gall hawliau ariannol ei wneud i fywydau pobl, yn aml nifer fach iawn sy’n eu hawlio. Er enghraifft, amcangyfrifir bod dros £200 miliwn o gredyd pensiwn nad yw’n cael ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu hawlio’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl i’w gael, a dyna pam rwy’n dosbarthu gwybodaeth am hawlio credyd pensiwn i bob person hŷn sy’n adnewyddu eu cardiau bws yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Ond mae angen gwneud mwy o hyd, a dyna pam rwy’n croesawu’n benodol argymhelliad y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru gymryd camau, ar ffurf ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus eang, i gynyddu’r niferoedd sy’n hawlio’r holl fudd-daliadau yng Nghymru, ac i roi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i roi cyngor ar hawliau ariannol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gweithredu ar argymhellion y Pwyllgor mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges