Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru, sy’n archwilio’r materion a’r heriau sylweddol a wynebwyd gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gydol y pandemig Covid-19.
“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o faterion allweddol sydd wedi cael effaith benodol ar gartrefi gofal yng Nghymru – yn cynnwys polisi profi Llywodraeth Cymru a’r gallu i gael gafael ar PPE hanfodol. Daw’r adroddiad i’r casgliad bod cartrefi gofal ‘wedi cael eu methu’n wael yn ystod yr argyfwng hwn’ ac mae hynny’n peri gofid sylweddol i mi.
“Rwy’n croesawu ac yn cefnogi argymhellion y Pwyllgor ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r camau gweithredu y gelwir amdanynt.
“Yn fy adroddiad Lleisiau Cartrefi Gofal a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gofynnais i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu penodol ar gyfer cartrefi gofal, gan nodi’n glir y camau i’w cymryd mewn amrywiol feysydd allweddol i ddiogelu a chefnogi pobl hŷn a’r bobl sy’n gofalu amdanynt. Byddai hyn yn rhoi’r tawelwch meddwl angenrheidiol i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal ac yn galluogi craffu cadarnhaol a chyfrifol o’r penderfyniadau a wnaethpwyd a’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.
“Mae adroddiad y Pwyllgor a’r materion sy’n codi yn atgyfnerthu’r angen dybryd am gynllun gweithredu, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cadarnhau y bydd yn cyhoeddi cynllun o’r fath ar fyrder.”