Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n siomedig bod Comisiwn y Gyfraith wedi argymell na ddylai ‘oedran’ gael ei gydnabod fel nodwedd warchodedig mewn cyfreithiau troseddau casineb.
“Byddai cryfhau deddfwriaeth fel y gallai troseddau yn erbyn pobl hŷn gael eu cydnabod fel troseddau casineb, a hynny mewn achosion lle mae oedran y dioddefwr wedi bod yn ffactor, yn gam sylweddol ymlaen, a byddai’n helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr un lefel o amddiffyniad o fewn y gyfraith â grwpiau eraill sy’n dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
“Byddaf felly’n parhau i alw am gyflwyno’r newid pwysig hwn, a chyflwyno’r achos drosto, wrth i ni symud ymlaen at gam nesaf y broses ddeddfwriaethol a fydd yn dechrau cyn bo hir yn San Steffan.”