Wrth ymateb i’r adroddiad Tegwch Rhwng Cenedlaethau a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Degwch a Darpariaeth Rhwng Cenedlaethau, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n siomedig unwaith eto ein bod ni’n gweld ein cenedlaethau hŷn ac iau yn cael eu gosod yn erbyn ein gilydd dan faner hyrwyddo tegwch rhwng cenedlaethau.
“Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o faterion pwysig sy’n effeithio ar fywydau pobl iau – sy’n ymwneud â thai, addysg a chyflogaeth – nid tynnu hawliau oddi ar bobl hŷn, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ansawdd eu bywydau (ac sy’n aml yn cael eu disgrifio fel achubiaeth) yw’r ffordd o fynd i’r afael â’r rhain.
“Heb yr hawliau hyn, byddai llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn cael eu gwthio i dlodi, rhywbeth sydd eisoes wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda phobl yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwyta, ochr yn ochr â mwy o unigrwydd ac unigedd a cholli annibyniaeth ymysg pobl hŷn, sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.
“Yn y tymor hir, byddai’r cynigion yn yr adroddiad yn arwain at lawer o bobl hŷn angen cymorth a chefnogaeth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a fyddai’n creu pwysau gwario y byddai modd ei osgoi fel arall.
“Mae adroddiad y Pwyllgor yn cyflwyno atebion rhy syml i broblemau cymhleth, ac er ei bod yn hanfodol bod pobl o bob oed yn cael y cymorth, y gefnogaeth a’r cyfleoedd y bydd eu hangen arnynt o bosibl i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl, ni fydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ras i’r gwaelod i fynd i’r afael â methiannau llywodraethau olynol.”