Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree ar Dlodi

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydw i’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree heddiw, sy’n nodi bod tlodi ar gynnydd ymysg pobl hŷn – mae’n effeithio ar 1 o bob 5 person hŷn yng Nghymru erbyn hyn – ac yn dangos bod angen cymryd camau gweithredu ar frys.

“Mae hon yn broblem rydw i wedi tynnu sylw ati’n gyson – yn fwyaf diweddar yn fy adroddiad ar Gyflwr y Genedl – oherwydd mae byw mewn tlodi yn cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl hŷn.

“Mae’n rhaid sicrhau bod mynd i’r afael â thlodi ymysg pobl hŷn yn flaenoriaeth, a dyma pam rydw i wedi bod yn ymgyrchu i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru. Ni chafodd £214 miliwn o Gredyd Pensiwn ei hawlio y llynedd, sy’n golygu bod miloedd o bobl hŷn yn colli arian mae ganddyn nhw hawl i’w gael, a fyddai’n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau.

“Rydw i hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amddiffyn hawliau a thaliadau sy’n helpu i roi sicrwydd ariannol i bobl hŷn, yn ogystal â gofyn iddynt weithredu i sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn hawlio’r hyn mae ganddyn nhw hawl i’w gael.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges