Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydw i’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn fawr. Mae’n trin a thrafod y ffyrdd y mae anghydraddoldebau wedi dwysáu effaith Covid-19 ar grwpiau penodol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn nifer o feysydd allweddol.
“Yn arbennig, rydw i’n croesawu’r ffaith bod y pwyllgor yn galw am weithredu yng nghyswllt adfer, diogelu a hyrwyddo hawliau pobl – un o’r prif ystyriaethau a godwyd gen i wrth roi tystiolaeth.
“Mae’r ystyriaethau ehangach y mae’r adroddiad yn tynnu sylw atynt, a’r argymhellion cysylltiedig, yn adleisio’r pryderon y mae pobl hŷn ledled Cymru wedi’u codi â mi yn ystod y pandemig, ac mae llawer o bobl hŷn yn poeni y byddant yn cael ‘eu gadael ar ôl’ wrth i Gymru ddechrau symud ymlaen.
“Mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i’r adroddiad a’i argymhellion ac yn cymryd y camu angenrheidiol fel mater o frys i sicrhau nad yw pobl hŷn, a grwpiau eraill sydd mewn perygl o ddioddef anghydraddoldeb a gwahaniaethu, yn cael eu hymyleiddio fwy fyth gan ymateb Cymru i’r pandemig.”