Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydw i’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan HMICRFS, sy’n nodi’r ffyrdd y mae angen i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gefnogi pobl hŷn yn fwy effeithiol pan maen nhw’n dioddef troseddau.
“Pan fydd pobl hŷn yn dioddef troseddau, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu diogelu a’u gwarchod, a’u bod yn gallu cael mynediad at y cymorth a’r mesurau diogelu sydd eu hangen arnyn nhw gan y system cyfiawnder troseddol, rhywbeth nad yw’n digwydd ar hyn o bryd yn ôl yr adroddiad.
“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu llawer o’r pryderon ynghylch mynediad at gyfiawnder y mae pobl hŷn wedi’u rhannu â mi a materion yn ymwneud â’r system gyfiawnder a nodwyd drwy fy ngwaith, ac rydw i’n croesawu’r galwadau i wella ymchwiliadau, i fynd i’r afael â’r materion presennol ynghylch diogelu ac atgyfeirio at dimau diogelu oedolion ac i asesu anghenion pobl yn briodol er mwyn i’r cymorth iawn gael ei ddarparu.
“Ar ôl gweithio’n agos gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, rydw i’n gwybod eu bod yn awyddus i wella’r modd maen nhw’n delio â throseddau yn erbyn pobl hŷn ac, yn bwysicaf oll efallai, i wella’r help a’r cymorth maen nhw’n eu rhoi i bobl hŷn sy’n dioddef troseddau. Rydw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu mewn ffordd ystyrlon.”
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad