Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Ymateb i Adolygiad Llywodraethu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae canfyddiadau adolygiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o drefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei gwneud yn glir bod mwy angen cael ei wneud, a hynny’n gyflymach, er mwyn cyflawni’r gwelliannau angenrheidiol, cryfhau ymddiriedaeth ac er mwyn rhoi sicrwydd i bobl hŷn a’u teuluoedd ledled gogledd Cymru y bydd y gofal y byddant yn ei gael yn ofal o’r safon uchaf.

“Rwy’n croesawu argymhellion y Pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru. Gobeithio y bydd eu hymateb yn gadarnhaol, ac yn sicrhau y bydd camau effeithiol ac amserol yn cael eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adroddiad.

“Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i fonitro’r camau sy’n cael eu cymryd gan y bwrdd iechyd a’r cynnydd sy’n cael ei wneud. Byddaf yn lleisio unrhyw bryderon i aelodau’r bwrdd ac i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddaf hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth i gleifion hŷn yng ngogledd Cymru drwy fy ngwasanaeth gwaith achos.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges