Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: Angen sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cartref na fydd pobl hŷn yn colli eu hawliau

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymuno â sefydliadau eraill1 sy’n gweithio ar ran pobl hŷn ledled y DU i alw ar yr Ysgrifennydd Cartref i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oherwydd pryderon bod rhai pobl hŷn wedi methu cofrestru ar gyfer y cynllun, neu efallai nad ydyn nhw’n gwybod bod angen iddyn nhw wneud hynny, ac y gallen nhw golli eu hawliau i barhau i fyw yn y DU.

Maen nhw’n dweud y byddai ymestyn y dyddiad cau yn golygu bod modd rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i’r gofyniad i gofrestru ar gyfer y cynllun, hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael yn fwy penodol a rhoi mwy o amser i bobl hŷn gwblhau eu ceisiadau.

Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw, maen nhw’n tynnu sylw at y rhwystrau a allai atal pobl hŷn rhag cofrestru, gan gynnwys oherwydd bod y broses yn ddigidol i gyd a gallai fod yn anodd iddyn nhw gael gafael ar y dogfennau perthnasol sydd eu hangen i brofi eu bod yn gymwys, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu’r rheini sy’n byw â dementia.

Ar ben hynny, maen nhw’n dweud bod llawer o’r cyhoeddusrwydd i’r cynllun wedi canolbwyntio ar hawliau unigolion i weithio yn y DU ac felly mae’n bosibl nad oedd yn ymddangos yn berthnasol i bobl hŷn sydd wedi ymddeol ac wedi byw yma ers degawdau lawer.

Maen nhw’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau na fydd unrhyw berson hŷn yn colli ei hawliau, yn cael ei amddifadu o driniaeth a budd-daliadau eraill, nac yn cael ei orfodi i symud o’r DU am nad oedd yn ymwybodol bod angen iddo gofrestru ar gyfer y Cynllun.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae hi’n hanfodol nad yw pobl hŷn sydd efallai wedi methu cofrestru ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, neu’r rheini nad oedden nhw’n gwybod bod angen iddyn nhw wneud hynny, yn colli eu hawliau a’u bod yn cael yr amser a’r gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnyn nhw i gofrestru.

“Mae hi’n bwysig cydnabod y bydd nifer sydd heb gofrestru ar gyfer y cynllun eto yn bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, neu’n bobl sy’n byw â dementia, a allai fod yn arbennig o agored i niwed. Mae’r pandemig hefyd wedi cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl hŷn i gael gwybod am y cynllun a’r camau mae angen iddyn nhw eu cymryd.

Rhaid i ni osgoi ailadrodd yr anghyfiawnder dychrynllyd a wynebwyd gan aelodau Cenhedlaeth Windrush a sicrhau bod holl ddinasyddion hŷn yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn cael y cyfle ehangaf i gofrestru ar gyfer y cynllun a chadw eu hawliau i barhau i fyw yn y DU.

“Dim ond os bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn ymrwymo i ymestyn y dyddiad cau ac yn rhoi’r sicrwydd rydym yn galw amdano y bydd hyn yn bosibl.”

Darllenwch y llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref


1 Dyma pwy sydd wedi llofnodi’r llythyr:

Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru

Brian Sloan, Prif Weithredwr Age Scotland

Dr Donald Macaskill, Prif Weithredwr Scottish Care

Caroline Abrahams, Cyfarwyddwr Elusen Age UK

Deborah Alsina MBE, Prif Weithredwr Independent Age

Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon

Linda Robinson, Prif Weithredwr Age NI

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges