Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru heddiw (3 Ebrill) wedi cyhoeddi ei strategaeth dair blynedd, gan nodi ei blaenoriaethau a’r camau y bydd yn eu cymryd i helpu i wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.
Bydd y Comisiynydd a’i thîm yn canolbwyntio ar weithredu i roi terfyn ar wahaniaethu a rhagfarnu ar sail oedran, rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda. Byddant yn cyflawni ystod eang o waith yng nghyswllt pob un o’r prif flaenoriaethau hyn.
Yn ogystal â hyn, bydd y Comisiynydd yn parhau i weithio gydag ystod eang o bartneriaid er mwyn dylanwadu ar bolisïau ac arferion lleol a chenedlaethol; monitro a chraffu ar waith cyrff cyhoeddus a’u dal i gyfrif pan fo angen; canfod, dathlu a hyrwyddo arferion da; ymgysylltu â phobl hŷn o bob cefndir; a rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn drwy ei gwasanaeth gwaith achos.
Cafodd strategaeth y Comisiynydd – Gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio – ei datblygu ar ôl llawer o ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn a rhanddeiliaid ledled Cymru, a wnaeth rannu eu profiadau, eu safbwyntiau a’u syniadau yng nghyswllt y newid sy’n angenrheidiol i wella bywydau pobl hŷn a’r ffyrdd y gellid cyflawni hynny.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ar ôl llawer o ymgysylltu â phobl hŷn a rhanddeiliaid ledled Cymru, rwy’n falch fy mod yn cyhoeddi fy strategaeth sy’n nodi’r blaenoriaethau y bydd fy ngwaith yn canolbwyntio arnynt a’r camau y byddaf yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf i helpu i wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.
“Mae gan Gymru lawer o bethau y gall ymfalchïo ynddynt o ran y gwaith mae’n ei wneud i wella bywydau pobl hŷn. Dywedodd llawer o’r bobl hŷn rwyf wedi cwrdd â nhw bod heneiddio wedi bod yn brofiad cadarnhaol.
Ond, nid yw hyn yn wir i bawb, yn enwedig i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pob person hŷn yn gallu cael yr ansawdd bywyd gorau, yn gallu cadw’n heini a chymryd rhan, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ac yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.
“Fel Comisiynydd, mae gen i waith unigryw i’w wneud wrth fynd i’r afael â’r blaenoriaethau sy’n cael eu nodi yn fy strategaeth, a byddaf yn gwneud ystod eang o waith i gyflawni pob un ohonynt. Ond, byddaf hefyd y gweithio i annog pobl eraill i fynd i’r afael â’r materion hyn a chydweithio i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol, rhywbeth a fydd ond yn cael ei gyflawni drwy gydweithio’n gyson ym mhob rhan o’r gymdeithas.
Ochr yn ochr â’i strategaeth, mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi ei rhaglen waith ar gyfer 2019-20, sy’n darparu rhagor o wybodaeth am y camau y bydd yn eu cymryd a’r gwaith y bydd yn ei wneud yn y flwyddyn a ddaw.
Cliciwch yma i darllenwch Strategaeth y Comisiynydd
Cliciwch yma i darllenwch Rhaglen Waith y Comisiynydd