Mynychodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, Ddiwrnod Agored Dementia Gyfeillgar yn y Bont-faen i drafod gwneud cymunedau’n fwy dementia gyfeillgar, a sut i gynnig cymorth a chyngor i’r rhai sy’n byw gyda phobl â dementia yng Nghymru ac yn gofalu amdanynt.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar ddydd Gwener 21ain Mehefin yn Neuadd y Dref, y Bont-faen, lle ymunwyd â’r Comisiynydd gan Faer y Bont-faen, y Cynghorydd Alec Trousdell, a’r Dr Isabel Graham, Uchel Siryf De Morgannwg a meddyg teulu lleol yn ogystal â nifer o sefydliadau sy’n darparu gwybodaeth am dementia yng Nghymru. Roedd aelodau’r gymuned yn gallu galw heibio drwy gydol y dydd i gwrdd ac i sgwrsio â gweithwyr cymorth dementia a grwpiau sy’n cefnogi gofalwyr yn ogystal â mwynhau cerddoriaeth gan gôr 50+ With Music in Mind, a chôr Ysgol Iolo Morgannwg.
Siaradodd y Comisiynydd â’r rhai oedd yn bresennol ynglŷn â’i phrofiadau ei hun yn gweithio gyda phobl â dementia a faint sydd wedi newid ers iddi ddechrau gweithio yn y sector dros 30 mlynedd yn ôl. Er bod mwy o gymunedau’n dechrau datblygu mentrau sy’n dementia gyfeillgar, nododd y Comisiynydd fod llawer o waith i’w wneud o hyd i gael y gefnogaeth gywir i bobl hŷn sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Comisiynydd: “Roedd yn bleser gweld cymaint o bobl yn y digwyddiad heddiw a chynifer o sefydliadau yn gweithio gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia. Mae pethau wedi newid yn ddramatig ers i fi ddechrau gweithio yn y sector, ac i’r sefydliadau yma heddiw mae’r clod am hynny. Mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn newid bywydau.
“Mae angen i ni sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn cael y seibiant cywir, y cymorth ariannol cywir ac, yn hollbwysig, mae angen i ni helpu’r rhai sy’n gofalu am bobl â dementia drwy sicrhau eu bod yn derbyn y cyngor a’r gefnogaeth gywir gan wasanaethau gofal.
“Mae’r Bont-faen Dementia Gyfeillgar yn gwneud gwaith gwych i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd fydd yn cael ei wneud tuag at wneud y Bont-faen yn gymuned sy’n dementia gyfeillgar.”
Lansiwyd y Bont-faen Dementia Gyfeillgar ym mis Mehefin 2016 i gynnig gweithgareddau cymdeithasol a chymorth i bobl hŷn sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Maen nhw wedi ymrwymo i wneud y Bont-faen yn gymuned gynhwysol, dementia gyfeillgar.
Roedd Steven Blackman, cadeirydd y Bont-faen Dementia Gyfeillgar, yn falch o lwyddiant y digwyddiad: “Roeddem wrth ein bodd gyda’r niferoedd ddaeth i’n hail Ddiwrnod Agored Dementia Gyfeillgar yn y Bont-faen. Daeth ugain o wahanol sefydliadau at ei gilydd i gwrdd â phobl, i roi cyngor a chefnogaeth barhaus ac roedden nhw’n gallu helpu gyda dros 200 o ymholiadau ar y dydd. Dywedodd nifer o ymwelwyr eu bod wedi’u synnu a’u calonogi i weld yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n byw gyda dementia.
“Diolch i bawb a helpodd ar y dydd, y corau a berfformiodd, ac wrth gwrs, y rhai sy’n helpu bob wythnos i helpu i wneud y Bont-faen yn gymuned gynhwysol, dementia gyfeillgar.”
Mae datblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed a dementia yn allweddol i gyflawni un o dair blaenoriaeth y Comisiynydd – gan alluogi pawb i heneiddio’n dda – a’i gweledigaeth i wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio. Mae mwy o wybodaeth am flaenoriaethau’r Comisiynydd i’w gweld yn ei Strategaeth sydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.
DIWEDD