Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Mae’n destun pryder mawr fod y ffigurau am Farwolaethau Ychwanegol y Gaeaf yng Nghymru wedi cynyddu 84% o’u cymharu â ffigurau 2016/17 a bod nifer y marwolaethau ymysg pobl hŷn wedi cynyddu’n fawr.
“Gellid bod wedi atal llawer o’r marwolaethau hyn ac mae’n gwbl annerbyniol fod y ffigurau wedi cyrraedd lefel na welwyd mohoni ers y 1970au.
“Rhaid gweithredu i sicrhau bod pobl hŷn, yn arbennig y rheini sy’n fwyaf agored i niwed, yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i aros yn iach dros fisoedd y gaeaf fel bod marwolaethau y mae modd eu hosgoi yn cael eu hatal yn y dyfodol.
“Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd i ofyn am wybodaeth am y gwaith y maent wedi’i wneud i sicrhau bod y gwasanaethau iechyd a gofal yn gallu ymdopi â phwysau’r gaeaf, sy’n gallu rhwystro pobl hŷn rhag cael y gwasanaethau a’r cymorth y mae eu hangen arnynt. Byddaf am gael gwybod hefyd a fydd unrhyw gamau ychwanegol yn cael eu cymryd mewn ymateb i’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw.”